Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
HSC(4)-01-12 Papur 1a
Ymchwiliad i Ofal Preswyl i Bobl hŷn – Amserlen a themâu allweddol
At: Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Gan: Y Gwasanaeth Pwyllgorau
Dyddiad: Ionawr 2012
Diben
1. Mae’r papur hwn yn cynnig amserlen amlinellol ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofal preswyl i bobl hŷn.
Cefndir
2. O gofio cwmpas eang yr ymchwiliad, cytunodd y Pwyllgor y byddai’n ddefnyddiol ystyried cynllun gwaith i fwrw ymlaen â chasglu tystiolaeth lafar. Cytunwyd dull o weithredu ar 8 Rhagfyr 2011 (Papur: HSC(4)-13-11 papur 2)
3. I sicrhau bod y Pwyllgor yn ymdrin â’r holl faterion a restrir yng nghylch gorchwyl yr ymchwiliad, cytunodd y Pwyllgor i gasglu tystiolaeth lafar yn unol â dwy egwyddor:
(i) Sesiynau tystiolaeth lafar i’w trefnu ar sail grwpiau buddiant; a
(ii) Dewis themâu penodol, fel y nodir yng nghylch gorchwyl yr ymchwiliad, i’r gwahanol Aelodau ymdrin â nhw yn ystod yr ymchwiliad.
Amserlen
4. I sicrhau bod y Pwyllgor yn ystyried amrywiaeth eang o safbwyntiau wrth gynnal yr ymchwiliad, cytunwyd y byddai tystion yn cael eu gwahodd i ddod i’r Pwyllgor ar sail y grŵp buddiant y maent yn perthyn iddo. Atodir amserlen sesiynau drafft a rhestr o dystion posib yn Atodiad A, a seilir gan fwyaf ar y dystiolaeth lafar a dderbyniwyd hyd yma. Efallai yr hoffai Aelodau awgrymu tystion ychwanegol neu wahanol.
Rhannu themâu allweddol ymhlith yr Aelodau
5. I sicrhau bod y Pwyllgor yn ymdrin â phob agwedd ar yr ymchwiliad hwn, cytunwyd y byddai aelod(au) penodol o’r Pwyllgor yn gyfrifol am bob un o’r pwyntiau bwled a restrir yn y cylch gorchwyl (hynny yw, pob thema allweddol).
6. Yn ymarferol, byddai hyn yn golygu y byddai’r Pwyllgor yn gofyn i Aelod A ac Aelod B ganolbwyntio ar gasglu gwybodaeth yn ymwneud â’r pwynt bwled cyntaf yn y cylch gorchwyl drwy gydol yr ymchwiliad; byddai Aelod C ar y llaw arall yn gyfrifol am faterion yn ymwneud â phwynt bwled dau etc.
Ni fyddai hyn yn atal yr Aelodau mewn unrhyw ffordd rhag gofyn cwestiynau am bynciau oddi allan i’w themâu penodol nhw, ond byddai’n sicrhau bod pob thema’n cael ei hystyried, mewn perthynas â’i gilydd.
7. Atodir cylch gorchwyl yr ymchwiliad (h.y. rhestr o’r themâu allweddol) yn Atodiad B.
Y cynnig
8. Gwahoddir y Pwyllgor i:
- ystyried a chytuno amserlen drafft y dysiolaeth lafar a’r tystion a awgrymir (Atodiad A);
- ystyried a chytuno pa Aelodau fydd yn arwain ar bob un o’r themâu allweddol a nodir yng nghylch gorchwyl yr ymchwiliad (Atodiad B).
ATODIAD A
Amserlen tystiolaeth lafar yr ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn
Cynigir bod y seisynau isod yn cael eu hamserlenni rhwng Chwefror a Gorffennaf 2012. Fe fydd cyfleuon ar gyfer gwaith arall y Pwyllgor hefyd yn cael eu hamserlenni yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys amser i Aelodau ymgymryd â gwaith sy’n ennyn diddordeb y cyhoedd yn yr ymchwiliad hwn.
Sesiwn 1: Cyflwyno’r cefndir
· Arbenigwr wedi’i apwyntio gan y Pwyllgor
· Y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth / Canolfan Bolisi ar Heneiddio / Sefydliad Joseph Rowntree
· OPAN Cymru (Ymchwil Heneiddio Cymru)
Sesiwn 2: Defnyddwyr, eu teuluoedd a’u gofalwyr
· Fforymau pobl hŷn e.e. Fforwm Pensiynwyr Cymru
· Grwpiau Age Cymru
· Grwpiau gofalwyr a sefydliadau sy’n eu cynrhychioli e.e. Cynghrair Gofalwyr Cymru
· Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Sesiwn 3: Cyrff yn y sector cyhoeddus
· Awdurdodau lleol / Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru / Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol
· Byrddau Iechyd Lleol / Conffederasiwn y GIG
· Yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol / Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd
Sesiwn 4: Darparwyr yn y sector preifat
· Fforwm Gofal Cymru
· Cymdeithas Gofal Cymdeithasol
· Darparwr gofal mawr e.e BUPA
Sesiwn 5: Cyrff a darparwyr yn y trydydd sector
· Gofal Croesffyrdd
· Age Cymru / Cynghrair Henoed Cymru
· Cartrefi Cymunedol Cymru / Care and Repair Cymru
· Canolfan Cydweithredol Cymru
Sesiwn 6: Cyrff proffesiynol a chyrff staff
· Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain yng Nghymru
· UNSAIN / Fforwm Gwasanaethau Cymdeithasol Unsain Cymru
· Proffesiynwyr iechyd e.e. Coleg Brenhinol y Seiciatryddion
· Coleg Therapyddion Galwedigaethol
Sesiwn 7: Rheoleiddiwyr ac arolygwyr
· Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru / Arolygiaeth Iechyd Cymru
· Cyngor Gofal Cymru
Sesiwn 8: Llywodraeth Cymru
· Y Dirprwy Weinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol
· Prif swyddogion
ATODIAD B
Cylch gorchwyl yr ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn.
Dyma gylch gorchwyl yr ymchwiliad, fel y’i cytunwyd gan y Pwyllgor ar 20 Hydref 2011:
Ymchwilio i ddarpariaeth gofal preswyl yng Nghymru a’r ffyrdd y gall fodloni anghenion presennol pobl hŷn a’u hanghenion ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys:
-
y broses a ddilynir gan bobl hŷn wrth
iddynt fynd i ofal preswyl ac argaeledd a hygyrchedd gwasanaethau
amgen yn y gymuned, gan gynnwys gwasanaethau ailalluogi a gofal yn
y cartref.
-
gallu’r sector gofal preswyl i fodloni’r
galw am wasanaethau gan bobl hŷn o ran
adnoddau staffio, gan gynnwys y sgiliau sydd gan staff a’r
hyfforddiant sydd ar gael iddynt, nifer y lleoedd a’r
cyfleusterau, a lefel yr adnoddau.
-
ansawdd gwasanaethau gofal preswyl a phrofiadau
defnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd; effeithiolrwydd
gwasanaethau o ran bodloni’r amrywiol anghenion ymhlith pobl
hŷn; a
rheolaeth ar gau cartrefi gofal.
-
effeithiolrwydd trefniadau rheoleiddio ac archwilio
gofal preswyl, gan gynnwys y cwmpas ar gyfer craffu mwy ar hyfywdra
ariannol darparwyr gwasanaethau.
-
y modelau gofal newydd sy’n dod i’r
amlwg.
- y cydbwysedd rhwng darpariaeth yn y sector cyhoeddus a’r sector annibynnol, a modelau ariannu, rheoli a pherchnogaeth amgen, fel y rheini a gynigir gan y sector gydweithredol a chydfuddiannol, y trydydd sector, a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.